Haul a Tharian pererinion
Ydwyt Ti, fy Iesu mawr;
Mae tywyllwch a phryderon
Yn diflannu yn Dy wawr;
Ni ddaw cwmwl
Dros Dy wyneb hawddgar byth.
Haul a Tharian iachawdwriaeth
Geidw f'enaid rhag llescau;
Haul a bythol feddyginiaeth
Yn ei esgyll yn parhau;
Yn Dy lewych
Deuaf yn dragwyddol iach.
Gâd im' aros yn Dy gwmni
I fwynhau Dy siriol wedd;
Dan dywynion Dy oleuni
Melys odiaeth yw Dy hedd;
Gweddnewidir
Bywyd yn Dy wenau Di.
Er cyfarfod â pheryglon
Ar fy ymdaith drwy y byd,
Er ymosod gan elynion
Ar fy enaid llesg o hyd,
Pam yr ofnaf;
Haul a Tharian yw fy Nuw.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 878747] |
The Sun and Shield of pilgrims
Are thou, my great Jesus;
Darkness and worries
Disappear in thy dawn;
No cloud shall ever
Come over thy beautiful face.
The Sun and Shield of salvation
Shall keep my soul from fainting;
A Sun with everlasting healing
In its wings enduringly;
In thy radiance
I shall become eternally healthy.
Let me stay in thy company
To enjoy thy cheerful countenance;
Under the rays of thy light
Exceptionally sweet is thy peace;
To be transfigured is
Life in thy smiles.
Despite meeting with perils
On my march through the world,
Despite attacks by enemies
Upon my feeble soul always,
Why shall I fear?
A Sun and Shield is my God.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|